Bitesize has changed! We're updating subjects as fast as we can. Visit our new site to find Bitesize guides and clips - and tell us what you think!

Hafan > Drama > Perfformiad ymarferol wedi'i ddyfeisio > Tasg Un: Perfformiad ymarferol wedi'i ddyfeisio

Drama

Tasg Un: Perfformiad ymarferol wedi'i ddyfeisio

Sut mae dyfeisio perfformiad

Yn Uned 1, fe fyddi di'n dyfeisio drama o'r ysgogiad rwyt wedi'i gael.

Bydd y Darn Adolygu hwn yn dy helpu i ddeall y broses a'r camau o ddyfeisio darn o waith drama. Edrycha sut mae elfennau drama gwahanol wedi cael eu defnyddio

'Gwefryrru' (Joyriding)- llinellau agoriadol

Dychmyga dy fod ti wedi cael darn o waith i'w wneud yn dwyn y teitl gwefryrru. Rwyt ti wedi cael yr ysgogiad canlynol ac rwyt yn gwybod bod yr agoriad i ddarn o ddrama yn bwysig iawn.

Gwefryrru/Joyriding

Gwefryrru/Joyriding

Dychmyga bod dy ddrama yn agor gyda thri chymeriad ar y llwyfan, pob un â llinell agoriadol:

Cymeriad 1

Cymeriad 1

Cymeriad 1: Roeddwn yn 18 oed y tro cyntaf i mi yrru car, dyna pryd rhoddodd dad fy ngwers gyntaf i mi.

Cymeriad 2

Cymeriad 2

Cymeriad 2: Y tro cyntaf i mi yrru car oedd ar fy mhen-blwydd yn 18 oed - roedd fy rhieni wedi talu am gyfres o wersi gyrru i mi.

Cymeriad 3

Cymeriad 3

Cymeriad 3: Y tro cyntaf i mi yrru car oedd pan oeddwn yn 15 oed, ac fe wnes i a'm ffrindiau ddwyn un - dyna'r tro olaf i mi yrru car i unrhyw le.

Mae'r agoriad yn defnyddio'r rheol o dri. Mae'r datganiad cyntaf yn glir. Mae'r ail ddatganiad yn debyg i'r un cyntaf ac yn paratoi'r gynulleidfa am y trydydd datganiad. Mae'r trydydd datganiad yn cychwyn trwy ddilyn y patrwm a osodwyd, ond yna'n dod ag elfen o syndod sy'n rhoi tipyn o sioc i'r gynulleidfa.

Ym mha ffordd fyddet ti'n llwyfannu agoriad rhan yma'r ddrama gan ddefnyddio'r sgript fer uchod? Gweler y dudalen nesaf am syniadau.

Syniadau ar gyfer agoriad drama

Opsiwn 1: Llwyfan traws

Llwyfan traws

Llwyfan traws

Gyda'r gynulleidfa ar ddwy ochr, mae cymeriadau 1 a 2 yn dod i mewn ar un ochr y traws ac yn dweud eu llinellau. Maen nhw'n gwenu ar ei gilydd ac yn fferru. Mae Cymeriad 3 yn dod i mewn ar ben arall y traws, ac yn dweud y llinell gyda'r agwedd o geisio creu syndod. Mae Cymeriadau 1 a 2 yn ymateb trwy droi eu pennau tuag at 3, a sioc yn amlwg ar eu hwynebau.

Opsiwn 2: Llwyfannu pen yn ben

Llwyfannu pen yn ben

Llwyfannu pen yn ben

Mae goleuadau sbot yn goleuo pob cymeriad wrth iddyn nhw ddweud eu llinellau. Dylai Cymeriadau 1 a 2 ymateb i ddatganiad cymeriad 3, fel bod yna dablo byr ar ôl i Gymeriad 3 siarad. Nid yw'r cymeriadau ar lefelau.

Opsiwn 3: Theatr gylch

Theatr gylch

Theatr gylch

Mae'r cymeriadau yn dod i'r man actio fesul un, gan ddim ond sefyll gan wynebu dwy ran o'r gynulleidfa. Wrth iddyn nhw gerdded i mewn, gellir chwarae effeithiau sain injan car. Pan fydd hyn wedi dod i ben, mae'r actorion yn dweud eu llinellau.

Am fwy o wybodaeth am rannau gwahanol y llwyfan, darllena'r Darn Adolygu Llwyfan yn adran 3.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.