Bitesize has changed! We're updating subjects as fast as we can. Visit our new site to find Bitesize guides and clips - and tell us what you think!

Hafan > Drama > Perfformiad ymarferol wedi'i ddyfeisio > Tasg Un: Perfformiad ymarferol wedi'i ddyfeisio

Drama

Tasg Un: Perfformiad ymarferol wedi'i ddyfeisio

Ymateb i ysgogiad

Bydd dy athro yn rhoi dewis o dri math gwahanol o ysgogiad i ti. Gallai'r rhain gynnwys geiriau cân, llun neu ddyfyniad. Mae'n rhaid i'r perfformiad ymarferol wedi'i ddyfeisio fod yn seiliedig ar un o'r rhain.

Ble mae dechrau?

Pan fyddi di'n cael dy ysgogiadau yn y lle cyntaf, edrycha arnyn nhw'n ofalus a gwna nodiadau am:

  • yr hyn rwyt ti'n ei weld neu'n ei glywed
  • yr hyn rwyt ti'n ei weld yn yr ysgogiadau
  • sut mae'r ysgogiadau yn gwneud i ti deimlo a'r hyn maen nhw'n gwneud i ti feddwl amdano.

Paid â cheisio ysgrifennu paragraffau, bydd pwyntiau un gair neu gymalau yn ddigon. Gall nodi dy ymatebion cyntaf i'r ysgogiadau dy helpu i ddatblygu dy waith yn ddiweddarach.Pan fyddi di wedi gwneud nodiadau ar dy ysgogiadau, fe allai dy athro awgrymu gwneud peth ymchwil i'r themâu a'r testunau rwyt wedi eu canfod. Mae gwneud hyn yn syniad da - bydd yn dy helpu wrth ddatblygu dy ddrama.

Mae dy ddewis o ysgogiadau yn mynd i fod yn allwedd i lwyddiant y darn terfynol

 

Cymera amser i wyntyllu syniadau ar gyfer pob un

Fel grŵp trafodwch y cwestiynau canlynol:

  • Pa rolau allen ni eu cynnwys?
  • A fyddai gan bawb ran gyfartal?
  • Pa arddull / ymarferydd fyddai'r gorau ar gyfer ein hagwedd tuag at yr ysgogiad a gafwyd?
  • Sut allen ni ddatblygu'r strwythur?
  • Lle fydden ni'n ei leoli?
  • O ba gyfeiriad fydden ni'n dod at yr ysgogiad, ee arddull naratif?
  • Oes angen iddo gael ei osod mewn cyfnod o amser penodol?
  • Pwy yw'n cynulleidfa [Cynulleidfa: Mae natur y berthynas rhwng perfformiwr a chynulleidfa yn destun llawer o drafodaeth ddamcaniaethol. Mae’r brif ddadl yn canolbwyntio ar oddefgarwch y gynulleidfa mewn cymhariaeth â’r gweithredu sydd ar y llwyfan. Mewn drama addysgol gall y gynulleidfa gyfrannu at y digwyddiadau, ond mewn perfformiad mae’r gynulleidfa yn tueddu i eistedd yn ôl i wylio. Mewn rhai mathau o berfformiad (e.e. Theatr y Stryd) mae’r gynulleidfa yn fwy cyfrannog. darged?
  • Pa fath o arddulliau a thechnegau allen ni ddefnyddio, ee monologau, fflachiadau o'r gorffennol ac ati.
  • Pa ysgogiadau sy'n ein cyffroi ac a fyddai'n ein galluogi i greu darn cyffrous o theatr?

Cofia:

Dim ond man cychwyn yw ysgogiad, does dim rhaid glynu'n gaeth ato. Yn aml mae'r gwaith gorau yn dod o feddwl y tu allan i'r bocs!

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.