Bitesize has changed! We're updating subjects as fast as we can. Visit our new site to find Bitesize guides and clips - and tell us what you think!

Hafan > Drama > Perfformiad ymarferol wedi'i ddyfeisio > Tasg Un: Perfformiad ymarferol wedi'i ddyfeisio

Drama

Tasg Un: Perfformiad ymarferol wedi'i ddyfeisio

Llunia galendr perfformiad wedi'i ddyfeisio

Amseru

  • Mae'n fwyaf tebyg y bydd yr arholiad perfformiad wedi'i ddyfeisio yn digwydd yn ystod tymor yr haf blwyddyn 10 neu yn nhymor yr hydref blwyddyn 11. Fodd bynnag, bydd yr athro yn penderfynu pa amser yw'r gorau ar gyfer y dosbarth.
  • Fe fyddi di'n cael tua 30 awr i ddatblygu ac ymarfer dy ddarn arholiad.Cyn bwrw iddi gyda dy waith drama, llunia galendr yn dangos beth mae angen i ti ei wneud ar gyfer yr arholiad.

Bydd yn helpu aelodau dy grŵp i gael gwybod beth maen nhw'n ei wneud fesul wythnos ac yn dy helpu i gadw at y trywydd.

Calendr drama

Calendr drama

Fe allai'r calendr edrych yn debyg i hyn.

Sampl o galendr perfformio

Wythnos

11

Dosbarthu'r ysgogiadFfurfio grwpiauTrafodaeth ac ymchwil ar yr ysgogiad a ddewiswydTasgau'n cael eu dyrannu: casglu props, gwneud y set, gwisgoedd ac ati

10

Datblygu syniadau cychwynnolDatblygu syniadau cychwynnolTrafod arddull/ymarferydd a ddewiswyd Trafod a datblygu strwythur cychwynnol

9

Ymarferion a datblygu gan ddefnyddio technegau archwilioSyniadau ar gyfer cerddoriaeth/sain ac ati Props yn dechrau cael eu canfod

8

Ymarferion a datblygiad yn parhau: pwyslais ar arbrofi gyda gwahanol fathau o lwyfannu. Golygfeydd yn cael eu rhoi mewn trefn.Ffynonellau i gael eu harchwilio a'u penderfynuProps i gael eu defnyddio unwaith y byddan nhw wedi cael eu canfod

7

Ymarferion a datblygiad yn parhau: pwyslais ar ddatblygu symudiad ac ystum priodol. Trafodaeth grŵp ar addasiadau i'r sgriptFfynonellau i gael eu harchwilio a'u penderfynuProps i gael eu defnyddio unwaith y byddan nhw wedi cael eu canfod

6

Ymarferion a datblygiad yn parhau: pwyslais ar ddatblygu techneg lleisiolFfynonellau i gael eu harchwilio a'u penderfynuProps i gael eu defnyddio unwaith y byddan nhw wedi cael eu canfod

5

Ymarferion a datblygiad yn parhauFfynonellau i gael eu harchwilio a'u penderfynuProps i gael eu defnyddio unwaith y byddan nhw wedi cael eu canfod

4

Ymarferion a datblygiad yn parhau. Perfformiad wedi'i ddyfeisio yn cael ei ffilmio, ei wylio a'i addasu.Ffynonellau i gael eu harchwilio a'u penderfynuProps i gael eu defnyddio unwaith y byddan nhw wedi cael eu canfod

3

Ymarferion a pherffeithio'r perfformiadFfynonellau i gael eu harchwilio a'u penderfynuProps i gael eu defnyddio unwaith y byddan nhw wedi cael eu canfod

2

Ymarferion a pherffeithio'r perfformiadMae angen i CDs cerddoriaeth ac ati gael eu gorffen a'u defnyddioProps a gwisgoedd i fod yn barodGoleuo a set i fod yn barod

1

Ymarferion a pherffeithio'r perfformiadYmarferion gwisgoedd a thechnegol

0

Ffilmio'r perfformiad terfynol. Marcio gan yr athro a'i anfon at y safonwr.

Awgrymiadau arholiad:

  • Cofia gyflwyno gwaith i gynulleidfa adeiladol yn ystod y cyfnod datblygu. Gwranda ar eu hadborth - fe fyddan nhw'n gweld beth wyt ti wedi'i adael allan a sut allet ti wella.
  • Er mwyn dy helpu gyda dy werthusiad perfformiad wedi'i ddyfeisio, cadw rai nodiadau yn ystod ymarferion. Bydd modd i ti ddefnyddio'r rhain wrth ysgrifennu dy werthusiad terfynol. Defnyddia'r pad sgrifennu argraffwyd isod.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.