Bitesize has changed! We're updating subjects as fast as we can. Visit our new site to find Bitesize guides and clips - and tell us what you think!

Hafan > Drama > Perfformiad ymarferol wedi'i ddyfeisio > Tasg Un: Perfformiad ymarferol wedi'i ddyfeisio

Drama

Tasg Un: Perfformiad ymarferol wedi'i ddyfeisio

Enghraifft o ddrama

Dyma enghraifft o ddrama a ysgrifennwyd gan grŵp o fyfyrwyr ar gyfer eu perfformiad ymarferol wedi'i ddyfeisio.

Teipiadur

Teipiadur

Darllena trwyddi ac edrych ar sylwadau'r arholwr er mwyn gweld pa elfennau sy'n ei wneud yn llwyddiannus ac yn ddiddorol fel darn o theatr.

Ysgogiad y grŵp oedd llun o hen deipiadur.

Maen nhw'n defnyddio dulliau Stanislavski fel eu prif ymarferydd.

Ffeil

Drama: Aberth Rhyfel (1.86MB)

Methu agor y ffeil? Ewch i BBC Webwise (Saesneg) am gymorth gyda Adobe Reader.

Sylwadau’r arholwr

  • Mae'r ddrama wedi cael ei sgriptio'n ofalus ac felly bydd aelodau'r grŵp yn glir ynghylch beth fydd angen iddyn nhw wneud wrth ymarfer y ddrama.
  • Mae'r ysgogiad, llun o hen deipiadur, wedi cael ei ddefnyddio mewn ffordd ddiddorol a syml.
  • Mae cyfnod o amser penodol y mae'r grŵp wedi ceisio'i adlewyrchu yn yr iaith mae'r cymeriadau yn ddefnyddio a hefyd eu dewis o sefyllfa, ee y rhyfel.
  • Mae'r ddrama wedi'i strwythuro'n ofalus. Mae'r golygfeydd yn symud yn braf a datblygiad clir i'r cymeriadau a'r digwydd.
  • Mae cydbwysedd effeithiol rhwng cynnwys emosiynol y golygfeydd. Mae rhai golygfeydd yn ddoniol, eraill yn drist iawn. Byddai'r cyferbyniad hwn yn hynod o effeithiol mewn perfformiad.
  • Mae'r cymeriadau yn gytbwys ac wedi'u datblygu'n dda. Mae'r rhyngberthnasau rhwng y cymeriadau yn gredadwy ac yn effeithiol.
  • Er nad yw rhai o'r dyfeisiau yn adlewyrchu dulliau Stanislavski, ee nid yw ôl-fflachiau yn rhan o naturoliaeth, mae'r cymeriadau a'r rhan fwyaf o'r sefyllfaoedd yn realistig ac yn gredadwy ac mae'r grŵp yn dangos lefel uchel o ddealltwriaeth o naturoliaeth yn y maes pwysig hwn.
  • Mae'r grŵp wedi dewis technegau dyfeisio yn ofalus, ee monolog, trawsdorri gan yr adroddwr, llythyrau, ôl-fflachiau, symud ar gyfer golygfa'r frwydr a'u defnyddio i ddatblygu plot, cymeriadau a strwythur y ddrama. Mae'r technegau hyn hefyd yn cyfrannu at wneud y ddrama yn effeithiol fel perfformiad ac i gynulleidfa.
  • Mae'r grŵp wedi ymchwilio'r cyfnod lle maen nhw wedi gosod y ddrama ac wedi cynnwys rhai manylion diddorol, ee mae'r bechgyn yn cael eu hanfon i Swydd Efrog ar gyfer eu hyfforddiant cychwynnol; y cardiau sigaret gyda lluniau o sêr ffilmiau poblogaidd; enw gwn penodol a ddefnyddid gan y fyddin Almaenig.
  • Mae’r ddeialog wedi'i hysgrifennu'n dda. Mae wedi'i datblygu, yn ddisgrifiadol, yn adlewyrchu lle a phryd y mae'r cymeriadau yn byw ac mae'n symud yn dda.
  • Mae'r cyfarwyddiadau llwyfan yn glir ac yn fanwl a byddai hyn o help mawr wrth ymarfer drama.
  • Maen nhw hefyd wedi meddwl am yr elfennau technegol ar ddechrau'r broses a sut y bydden nhw'n cyfoethogi'r ddrama.
  • Mae nifer o olygfeydd gwahanol a gallai llawer o newid golygfeydd ddifetha llif y ddrama. Er hynny, maen nhw wedi gosod y gofod a gellid awgrymu pob lleoliad yn syml ac yn effeithiol. Maen nhw hefyd yn dweud lle mae'r cymeriadau trwy gyfrwng y deialog.
  • Mae'r ddrama yn atmosfferig a byddai'n cael effaith ar gynulleidfa.
  • Mae o hyd addas i bum cymeriad.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.