Bitesize has changed! We're updating subjects as fast as we can. Visit our new site to find Bitesize guides and clips - and tell us what you think!

Hafan > Cemeg > Atomau, Bondio, Metelau a Chyfrifiadau Cemegol > Bondio, Adeiledd a Phriodweddau Cemegol

Cemeg

Bondio, Adeiledd a Phriodweddau Cemegol

Cyfansoddion ïonig a bondio ïonig

Wrth i fetelau adweithio gydag anfetelau, caiff electronau [electronau: Gronyn is-atomig yw electron, sydd â gwefr negatif a'i fàs yn ddibwys o'i gymharu â phroton a niwtron. eu trosglwyddo o atomau’r metel i atomau’r anfetel, gan ffurfio ïonau [ïonau: Ïon yw gronyn â gwefr drydanol sy'n cael ei ffurfio wrth i atom neu foleciwl ennill neu golli electron(au).. Mae’r cyfansoddyn sy’n deillio o hyn yn cael ei alw’n gyfansoddyn ïonig [cyfansoddyn ïonig: Mae cyfansoddyn ïonig yn cael ei ffurfio wrth i ïon negatif (atom sydd wedi ennill electron) ymuno ag ïon positif (atom sydd wedi colli electron): mae'r ïonau yn cyfnewid electronau i greu plisgyn allanol llawn..

Ystyriwch adweithiau rhwng metelau ac anfetelau, er enghraifft:

  • sodiwm + clorin → sodiwm clorid
  • magnesiwm + ocsigen → magnesiwm ocsid
  • calsiwm + clorin → calsiwm clorid

Ym mhob un o’r adweithiau hyn, mae atomau’r metel yn rhoi electronau i atomau’r anfetel, a chanlyniad hyn yw bod atomau’r metel yn dod yn ïonau positif ac atomau’r anfetel yn ïonau negatif. Mae grym atynnol electrostatig [electrostatig: Dywedwn fod ynysydd yn electrostatig os yw gwefrau trydanol yn cronni arno. cryf, sy’n cael ei alw’n fond ïonig, rhwng yr ïonau hyn sydd wedi eu gwefru’n ddirgroes. Mae’r animeiddiad yn dangos bondiau ïonig yn cael eu ffurfio mewn sodiwm clorid, magnesiwm ocsid a chalsiwm clorid.

I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.