Mae CCC angen aelodau o bob rhan o Gymru ac o gefndiroedd amrywiol. Oes gennych chi ddiddordeb?

Mae'r broses recriwtio ar gyfer 2014 bellach ar gau. Bydd y cyfnod recriwtio nesaf ym mis Tachwedd 2014.

Y broses recriwtio

Mae Ymddiriedolaeth y BBC yn penodi, ar argymhelliad panel annibynnol, rhwng wyth a deuddeg aelod i Gyngor Cynulleidfa BBC Cymru. Penodir yn flynyddol er mwyn llenwi llefydd aelodau y mae eu tymor wedi dirwyn i ben. Ceisir ymgeiswyr drwy hysbyseb agored a dilynir proses benodi agored yn unol â'r arfer gorau o ran penodiadau cyhoeddus.

Disgwylir i CCC fod yn gynrychioliadol o dalwyr ffi'r drwydded yng Nghymru, yn enwedig o ran daearyddiaeth, iaith, tarddiad ethnig, rhyw, oedran, anabledd a demograffeg. Mae Ymddiriedolaeth y BBC yn sicrhau bod aelodaeth CCC yn cynnwys profiad o faterion eang all gynnwys materion anabledd, cymunedau lleiafrifol ethnig, credoau, cyfeiriadedd rhyw, a materion yn ymwneud ag oedran, sgiliau sylfaenol, a chymunedau trefol a gwledig.

Caiff aelodau CCC eu penodi am gyfnod gwreiddiol o dair blynedd gydag opsiwn o estyn y tymor am gyfnod ychwanegol o ddwy flynedd.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ysgrifennwch at Brif Ymgynghorydd Cymru :

Llywodraethu ac Atebolrwydd
Y Ganolfan Ddarlledu BBC Cymru
Llandaf
Caerdydd CF5 2YQ

Ynteu anfonwch e-bost at ccc@bbc.co.uk.

people.jpg

Beth am wneud cais i fod yn aelod o Gyngor Cynulleidfa Cymru'r BBC?

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.