BBC Trust

Getting the best out of the BBC for licence fee payers

Sut mae apelio i’r Ymddiriedolaeth

Os ydych chi wedi cwyno i'r BBC, i TV Licensing neu i’r Cynllun Cymorth Newid i’r Digidol, ac rydych chi’n anhapus â’r ateb terfynol a gawsoch chi, gallwch chi apelio i’r Ymddiriedolaeth. Gweler crynodeb o sut mae gwneud hyn isod. Ond os ydych chi am apelio, byddem yn eich cynghori chi i ddarllen canllawiau llawn yr Ymddiriedolaeth.

Llwytho’r canllawiau llawn ynghylch sut mae apelio i’r Ymddiriedolaeth

Sylwer y bydd y broses yn amrywio fymryn gan ddibynnu ar natur eich cwyn wreiddiol.

Sut mae apelio i’r Ymddiriedolaeth yng nghyswllt penderfyniad ynghylch cwyn olygyddol

Sut mae apelio i’r Ymddiriedolaeth

Os ydych chi wedi cwyno i'r BBC, i TV Licensing neu i’r Cynllun Cymorth Newid i’r Digidol, ac rydych chi’n anhapus â’r ateb terfynol a gawsoch chi, gallwch chi apelio i’r Ymddiriedolaeth. Gweler crynodeb o sut mae gwneud hyn isod. Ond os ydych chi am apelio, byddem yn eich cynghori chi i ddarllen canllawiau llawn yr Ymddiriedolaeth.

Sut mae apelio i'r Ymddiriedolaeth - crynodeb

Dim ond os ydych chi wedi bod drwy broses gwyno lawn y BBC, TV Licensing neu’r Cynllun Cymorth Newid i’r Digidol y gallwch chi apelio i’r Ymddiriedolaeth.

Os ydych chi wedi bod drwy’r broses gwyno lawn ac rydych chi’n dal yn anhapus â’r canlyniad, gallwch chi gysylltu â’r Ymddiriedolaeth i ofyn am apêl.

Terfynau amser ar gyfer ceisiadau am apêl

Os yw eich cwyn yn ymwneud â’r BBC neu â TV Licensing, mae gennych chi 20 diwrnod i ofyn am apêl, yn dechrau ar y dyddiad yr anfonodd Gweithrediaeth y BBC y llythyr olaf atoch chi yng nghyswllt eich cwyn. Mae’n bosibl y bydd yr Ymddiriedolaeth yn caniatáu rhagor o amser os oes gennych chi reswm da am yr oedi.

Os yw’ch cwyn yn ymwneud â’r Cynllun Cymorth Newid i’r Digidol, mae gennych chi 28 diwrnod i ofyn am apêl, yn dechrau ar y dyddiad yr anfonodd rheolwyr y Cynllun y llythyr olaf atoch chi yng nghyswllt eich cwyn.

At bwy dylech chi ysgrifennu?

Dylech chi ysgrifennu at Uned yr Ymddiriedolaeth i ofyn am apêl. Os na allwch chi gyflwyno eich cais ar bapur, neu os oes gennych chi broblemau mynediad, edrychwch ar yr adran “Anhawster wrth ysgrifennu” isod.

Dylid anfon apeliadau yng nghyswllt cwynion golygyddol i:

Complaints Manager
BBC Trust Unit
180 Great Portland Street
London
W1W 5QZ

Dylid anfon apeliadau yng nghyswllt cwynion yn ymwneud â masnachu teg i:

Head of Finance Economics and Strategy
BBC Trust Unit
180 Great Portland Street
London
W1W 5QZ

Dylid anfon apeliadau yng nghyswllt cwynion cyffredinol i:

Correspondence Manager
BBC Trust Unit
180 Great Portland Street
London
W1W 5QZ

Dylid anfon apeliadau yng nghyswllt cwynion yn ymwneud â TV Licensing i:

Chief financial and compliance adviser
BBC Trust Unit
180 Great Portland Street
London
W1W 5QZ

Dylid anfon apeliadau yng nghyswllt cwynion yn ymwneud â’r Cynllun Cymorth Newid i’r Digidol i:

The Appeals Adjudicator
BBC Trust Unit
180 Great Portland Street
London
W1W 5QZ

Anhawster wrth ysgrifennu?

Os na allwch chi anfon eich cais am apêl drwy lythyr, neu os oes gennych chi broblem mynediad, cysylltwch â llinell ymholiadau Uned yr Ymddiriedolaeth ar 03700 103 100. Ffôn testun 03700 100 212.

Beth ddylai eich llythyr ei gynnwys

Ar gyfer apeliadau yn ymwneud â masnachu teg, apeliadau golygyddol ac apeliadau cyffredinol, gofynnwn i chi sicrhau bod eich llythyr yn dilyn y fformat canlynol: Rhowch fanylion eich cwyn yn fras, a nodwch pam nad ydych chi’n fodlon â’r ateb terfynol a gawsoch chi iddi. Cofiwch gynnwys unrhyw gyfeirnod a dyddiad yr ateb terfynol a gawsoch chi i’ch cwyn. Sicrhewch nad yw eich llythyr yn hirach na 1000 o eiriau (oddeutu pedair ochr). Os oes yn rhaid iddo fod yn hirach, anfonwch hefyd grynodeb un dudalen o hyd.

A fydd yr Ymddiriedolaeth bob amser yn derbyn ceisiadau am apeliadau?

Na fydd. Mae’n dibynnu ar natur y gŵyn a pha un ai a yw’n cyd-fynd â’n meini prawf cyhoeddedig ar gyfer apeliadau ai peidio. Y naill ffordd neu’r llall, byddwn ni’n rhoi gwybod i chi beth yw ein penderfyniad ni ac yn dweud wrthych chi beth yw’r rhesymau dros hynny.

Beth fydd yn digwydd pan gaiff cais am apêl ei dderbyn?

Os caiff eich cais am apêl ei dderbyn, bydd eich apêl yn cael ei ystyried gan bwyllgor perthnasol yr Ymddiriedolaeth (er enghraifft, y Pwyllgor Safonau Golygyddol sy’n gwrando ar apeliadau golygyddol). Mewn rhai achosion, efallai y cewch chi eich gwahodd i gymryd rhan. Caiff y penderfyniad ei anfon atoch chi, a bydd hefyd yn cael ei gyhoeddi ar y wefan hon.

Sylwer bod y broses apeliadau yn amrywio gan ddibynnu ar natur y gŵyn. Felly, cyn i chi ofyn am apêl, byddem yn eich cynghori chi i ddarllen y canllawiau llawn perthnasol – ceir dolenni ar frig y dudalen hon.

bbc.co.uk navigation

BBC © 2012 The BBC is not responsible for the content of external sites. Read more.

This page is best viewed in an up-to-date web browser with style sheets (CSS) enabled. While you will be able to view the content of this page in your current browser, you will not be able to get the full visual experience. Please consider upgrading your browser software or enabling style sheets (CSS) if you are able to do so.