Ymddiriedolaeth y BBC yn cymeradwyo’r Gwasanaeth Digidol Gaeleg yn amodol
28 January 2008
Yn dilyn Prawf Gwerth Cyhoeddus llawn, mae’r Ymddiriedolaeth wedi cymeradwyo’r gwasanaeth i lawnsio nawr ar gebl, lloeren a band eang, ond nid Freeview ar yr adeg yma. Er mwyn sicrhau gwerth am arian i dalwyr ffi’r drwydded a bod y gwasanaeth yn cwrdd ag anghenion y gynulleidfa darged yn y ffordd orau, mae’r Ymddiriedolaeth wedi penderfynu y bydd y gwasanaeth yn amodol ar arolwg cyn i newid i ddigidol gychwyn yng nghanolbarth a gogledd yr Alban yn 2010. Bydd yr arolwg yn edrych ar wir berfformiad y gwasanaeth yn ymgiprys am werth cyhoeddus, gan gynnwys cyrraedd cynulleidfa ehangach, gan ystyried lawnsio ar Freeview.
Er mwyn amddiffyn mynediad i ddefnyddwyr cyfredol mae’r Ymddiriedolaeth wedi dod i’r casgliad y bydd y ‘Gaelic Zone’ ar BBC 2 yn parhau am y dyfodol rhagweladwy.
Fe roddir penderfyniad yr Ymddiriedolaeth yn llawn isod.
- Gaelic Digital Service final decision, PDF (249KB)
- Gaelic Digital Service final decision, text only (95.5KB)
Ymateb i gasgliadau dros dro yr Ymddiriedolaeth
Derbyniodd yr Ymddiriedolaeth yr ymatebion canlynol i'w gasgliadau dros dro gan reolwyr y BBC, sefydliadau ac aelodau o'r cyhoedd.
- Executive response, PDF (498KB)
- Executive response, text only (156KB)
Penderfyniad yr Ymddiriedolaeth ar y Gwasanaeth Digidol Gaeleg
Gweler y dudalen tystiolaeth ategol ar gyfer yr holl ddogfennau perthnasol i’r ymgynghoriad.

