Meini Prawf y BBC ar gyfer Dyrannu Darllediadau Gwleidyddol Sianeli池 BBC ar gyfer Darllediadau Gwleidyddol Bydd darllediadau gwleidyddol yn cael eu darlledu yn y wlad berthnasol ar BBC One a BBC Two. Meini Prawf Dyrannu Darllediadau Gwleidyddol Lloegr Bydd plaid wleidyddol gofrestredig yn Lloegr yn gymwys i gael darllediad gwleidyddol yn yr Hydref, yn y Gaeaf ac yn y Gwanwyn yn Lloegr: 1. os yw地 dal mwy nag un sedd yn Nhy池 Cyffredin; ac 2. os yw地 gallu dangos lefelau sylweddol o gefnogaeth etholiadol dros gyfres o etholiadau yn Lloegr. Yr Alban Bydd plaid wleidyddol gofrestredig yn yr Alban yn gymwys i gael darllediad gwleidyddol yn yr Hydref, yn y Gaeaf ac yn y Gwanwyn yn yr Alban: 1. os yw地 dal mwy nag un sedd: (a) yn Senedd yr Alban; neu (b) yn Nhy'r Cyffredin, ac 2. os yw地 gallu dangos lefelau sylweddol o gefnogaeth etholiadol dros gyfres o etholiadau yn yr Alban. Cymru Bydd plaid wleidyddol gofrestredig yng Nghymru yn gymwys i gael darllediad gwleidyddol yn yr Hydref, yn y Gaeaf ac yn y Gwanwyn yng Nghymru: 1. os yw地 dal mwy nag un sedd: (a) yng Nghynulliad Cymru; neu (b) yn Nhy'r Cyffredin, ac 2. os yw地 gallu dangos lefelau sylweddol o gefnogaeth etholiadol dros gyfres o etholiadau yng Nghymru. Gogledd Iwerddon Bydd plaid wleidyddol gofrestredig yng Ngogledd Iwerddon yn gymwys i gael 1 neu 2 o ddarllediadau gwleidyddol yng Ngogledd Iwerddon rhwng mis Medi a mis Mawrth (ac eithrio mis Rhagfyr): 1. os yw地 dal mwy nag un sedd: (a) yng Nghynulliad Gogledd Iwerddon; neu (b) yn Nhy'r Cyffredin, ac 2. os yw地 gallu dangos lefelau sylweddol o gefnogaeth etholiadol dros gyfres o etholiadau yng Ngogledd Iwerddon. D.S. Ni fydd darllediadau gwleidyddol yn cael eu rhoi ar yr amserlen yn ystod cyfnod etholiad, a gellir eu canslo neu eu gohirio os gelwir etholiad neu isetholiad. Rhaid i池 amserlen gael ei chadarnhau o leiaf chwech wythnos cyn y dyddiad darlledu, ac mae地 amodol ar gytundeb y BBC. Canllawiau Cynhyrchu Mae地 rhaid i bleidiau gadw at y Canllawiau Cynhyrchu sydd ar gael ar wefan y Grwp Cyswllt Darlledwyr.