Ymgynghoriad ar y polisi Darllediadau Gwleidyddol drafft Rhagfyr 2011 Getting the best out of the BBC for licence fee payers bbc.co.uk/bbctrust YMGYNGHORIAD: Y Polisi Darllediadau Gwleidyddol Drafft Y Cefndir Mae’n ofynnol i’r BBC ddarlledu darllediadau gwleidyddol ar rai, neu ar bob un, o Wasanaethau Darlledu Cyhoeddus y DU.1 Mae’n rhaid i Ymddiriedolaeth y BBC (sef corff llywodraethu y BBC, sydd ar wahân ac yn annibynnol ar y gwaith o reoli’r BBC o ddydd i ddydd) bennu pa rai o Wasanaethau Darlledu Cyhoeddus y DU ddylai ddarlledu darllediadau gwleidyddol, ar ba sail y dylid eu cynnwys, a’r telerau ac amodau maent yn rhwym wrthynt (cyfeirir at hyn fel meini prawf dyrannu darllediadau gwleidyddol). 2 Mae Bwrdd Gweithredol y BBC3 yn gyfrifol am ddyrannu darllediadau gwleidyddol yn unol â’r meini prawf ar gyfer dyrannu darllediadau gwleidyddol a gymeradwyir gan yr Ymddiriedolaeth. Mae Ymddiriedolaeth y BBC yn cynnig rhoi polisi newydd ar waith sy’n rhoi manylion y meini prawf ar gyfer dyrannu darllediadau gwleidyddol i bleidiau gwleidyddol cofrestredig4, ac amseru’r darllediadau hynny. Mae’r ymgynghoriad cyhoeddus hwn yn ceisio barn pobl am y polisi arfaethedig hwn. Swyddogaeth yr Ymddiriedolaeth yw cymeradwyo’r meini prawf ar gyfer dyrannu darllediadau gwleidyddol i bleidiau, a’r sail ar gyfer eu darlledu. Swyddogaeth y Bwrdd Gweithredol yw gweithredu’r meini prawf a gymeradwyir gan yr Ymddiriedolaeth o ran pa bleidiau gwleidyddol sy’n gymwys i gael darllediad gwleidyddol, ac yna cysylltu â’r pleidiau gwleidyddol i drafod lle penodol eu darllediadau ar yr amserlen. Caiff unrhyw gwynion ynglyn â dyrannu eu cyfeirio at y Bwrdd Gweithredol i ddechrau. Os bydd y gwyn yn dal heb ei bodloni, mae’n bosib y gellir apelio penderfyniad y Bwrdd Gweithredol i’r Ymddiriedolaeth. Gellir gweld manylion y drefn gwyno yma: http://www.bbc.co.uk/bbctrust/assets/files/pdf/our_work/rcb/complaints_proce ss.pdf 1 Diffinir Gwasanaethau Darlledu Cyhoeddus y DU yng nghymal 104 o’r Cytundeb fel ‘y gwasanaethau cyhoeddus hynny yn y DU sy’n cynnwys gwasanaethau rhaglenni teledu a gwasanaethau rhaglenni radio’. 2 gweler Cymal 48 y Cytundeb. 3 Bwrdd Gweithredol y BBC sy’n gyfrifol am weithredu’r BBC o ddydd i ddydd. 4 Mae darllediadau gwleidyddol yn un math o ddarllediad gwleidyddol. Nid yw darllediadau etholiadol na darllediadau ymgyrch refferendwm yn cael eu cynnwys yn y polisi hwn. Fframwaith Deddfwriaethol Mae Adran 48 y Cytundeb rhwng y Llywodraeth a’r BBC yn dweud: “(1) Mae’n rhaid i’r BBC gynnwys darllediadau gwleidyddol [a darllediadau ymgyrch refferendwm] yn rhai o Wasanaethau Darlledu Cyhoeddus y DU, neu ym mhob un ohonynt. (2) Mae’n rhaid i’r Ymddiriedolaeth bennu – (a) pa rai o Wasanaethau Darlledu Cyhoeddus y DU sydd, mewn egwyddor , i gynnwys darllediadau gwleidyddol [a darllediadau ymgyrch refferendwm]; ac (b) ar ba sail y mae’r darllediadau i gael eu cynnwys, a’r telerau ac amodau maent yn rhwym wrthynt. (3) Yn benodol, gallai’r Ymddiriedolaeth bennu, cyn belled â’u bod yn cael gwneud hynny yn ôl adrannau 37 a 127 Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (dim ond pleidiau cofrestredig a sefydliadau dynodedig sydd â’r hawl i gael darllediadau gwleidyddol [neu ddarllediadau ymgyrch refferendwm]) – (a) pa bleidiau gwleidyddol y gellir gwneud darllediadau gwleidyddol ar eu rhan; a (b) hyd darllediadau gwleidyddol [a darllediadau ymgyrch refferendwm] a pha mor aml y cânt eu darlledu.” Darllediadau Gwleidyddol – y sefyllfa bresennol Ar hyn o bryd yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, cynigir darllediadau gwleidyddol i bleidiau gwleidyddol cymwys, a chysylltir amser y darllediadau â digwyddiadau gwleidyddol penodol, megis cynadleddau’r pleidiau ac Araith y Frenhines. Hefyd, mae Canghellor y Trysorlys wedi gwneud darllediad ar ddiwrnod y Gyllideb, gydag ymateb y Gwrthbleidiau i ddilyn. Yng Ngogledd Iwerddon, cynigir un darllediad gwleidyddol rhwng mis Medi a mis Mawrth i bleidiau cymwys. Ein cynnig Dyrannu Rydym yn cynnig nad yw’r meini prawf presennol ar gyfer dyrannu darllediadau gwleidyddol yn newid. Rhoddir manylion llawn y meini prawf hyn yn nogfen y meini prawf arfaethedig ond, yn gryno, maent yn nodi bod pleidiau gwleidyddol cofrestredig yn gymwys i gael darllediad gwleidyddol: BBC Trust Party Political Broadcasts Consultation page 2 1. os oes ganddynt lefel sylfaenol o gynrychiolaeth ar lefel genedlaethol; ac 2. os ydynt yn gallu dangos lefelau sylweddol o gefnogaeth etholiadol dros gyfres o etholiadau (yn y wlad berthnasol) Swyddogaeth y Bwrdd Gweithredol yw gweithredu’r meini prawf a gymeradwyir gan yr Ymddiriedolaeth o ran pa bleidiau gwleidyddol sy’n gymwys i gael darllediad gwleidyddol, ac yna cysylltu â’r pleidiau gwleidyddol i drafod lle penodol eu darllediadau ar yr amserlen. Dyma enghreifftiau o’r dystiolaeth a fydd yn cael ei hystyried gan y Bwrdd Gweithredol wrth bennu cefnogaeth etholiadol sylweddol dros gyfres o etholiadau ar gyfer dyrannu darllediadau gwleidyddol: • Perfformiad mewn gwahanol fathau o etholiadau o ran nifer y seddi sy’n cael eu dal a chyfran o’r bleidlais; • Lefelau’r gefnogaeth mewn etholiadau diweddar; • Newid mewn amgylchiadau (er enghraifft, ffurfio pleidiau newydd neu pleidiau’n chwalu). Fodd bynnag, nid yw’r rhestr hon yn gynhwysfawr. Mae’r BBC wedi defnyddio’r term ‘cefnogaeth etholiadol sylweddol’ fel maen prawf ar gyfer pennu sut i ddyrannu’r darllediadau gwleidyddol am y 18 mis diwethaf, yn ogystal ag ar gyfer darllediadau etholiadol am nifer o flynyddoedd, ac ar gyfer sicrhau tegwch yn y broses ddyrannu. Mae’r dystiolaeth sy’n cael ei hystyried wrth ddyrannu darllediadau gwleidyddol a darllediadau etholiadol yn debyg, ond mae’r pwysau a roddir ar y dystiolaeth honno yn wahanol gan fod darllediadau etholiadol ynghlwm wrth etholiad penodol. Mae’r Ymddiriedolaeth yn ystyried bod ‘cefnogaeth etholiadol sylweddol’ wedi’i hen sefydlu a bod y rheini sy’n gymwys i gael darllediadau etholiadol a darllediadau gwleidyddol yn ei ddeall. Yn y gorffennol mae hyn wedi, er enghraifft, darparu darllediadau etholiadol ar gyfer pleidiau a gaiff eu hystyried y prif bleidiau gwleidyddol, yn ogystal â phleidiau gwleidyddol eraill. Fodd bynnag, mae hefyd yn caniatáu hyblygrwydd sylweddol yn y system er mwyn ystyried yn briodol amgylchiadau sy’n newid wrth i’r amgylched gwleidyddol ddatblygu. Mae’n bwysig bod meincnod priodol yn cael ei osod ar gyfer dyrannu darllediadau gwleidyddol i bleidiau gwleidyddol. Mae’r cyfuniad o gynrychiolaeth mewn siambr ddeddfwriaethol a chefnogaeth etholiadol barhaus i’w weld yn gymesur. Darllediadau tymhorol Rydym yn cynnig dileu’r cysylltiad rhwng amser darlledu darllediadau gwleidyddol a digwyddiadau gwleidyddol penodol, a chynnig darllediadau gwleidyddol i bleidiau cymwys yng Nghymru, yn Lloegr ac yn yr Alban ar sail ‘tymhorol’ yn yr hydref, yn y gaeaf ac yn y gwanwyn yn lle. BBC Trust Party Political Broadcasts Consultation page 3 Gan gydnabod y cyd-destun gwahanol yng Ngogledd Iwerddon, rydym yn cynnig naill ai (i) cadw’r polisi cyfredol lle bydd un darllediad gwleidyddol yn cael ei ddyrannu i bleidiau cymwys yng Ngogledd Iwerddon rhwng mis Medi a mis Mawrth neu (ii) cynnig dau ddarllediad gwleidyddol i bleidiau cymwys yn y cyfnod hwnnw. Mae’r cynnig hwn yn cynnwys dileu darllediadau’r Gyllideb, er y gallai pleidiau cymwys ddewis trefnu eu darllediadau tymhorol o amgylch y Gyllideb, petaent yn dymuno, yn amodol ar ystyriaethau’r amserlen (gweler isod). Pam cynnig y newid hwn? Mae’r system bresennol ar gyfer trefnu darllediadau gwleidyddol yn dilyn hen arfer, ac nid yw’n ystyried y newidiadau i’r amgylchedd gwleidyddol dros y blynyddoedd, megis darlledu o’r Senedd ar y teledu a chynnydd datganoli. A Chynulliad Cymru a Senedd yr Alban wedi’u sefydlu bellach, nid yw’n amlwg pam ddylai nifer wahanol o ddarllediadau gwleidyddol fod drwy’r flwyddyn mewn gwahanol rannau o’r DU. Rydym yn cydnabod bod cyd-destun gwahanol yng Ngogledd Iwerddon sy’n cyfiawnhau triniaeth wahaniaethol. Mae hyn yn deillio o’r ffaith bod y strwythur gwleidyddol yng Ngogledd Iwerddon yn wahanol i weddill y DU (a allai arwain at rai materion yn ymwneud â safbwynt diduedd) a bod yr amseru gwahanol ar gyfer datganoli yng Ngogledd Iwerddon wedi golygu mai dim ond yn weddol ddiweddar y dechreuwyd yr arfer o ddarllediadau gwleidyddol. Rydym yn cydnabod hefyd y gallai darllediadau gwleidyddol beri trafferthion ariannol i rai pleidiau gwleidyddol, yn enwedig yng Ngogledd Iwerddon, a gall hynny hefyd arwain at rai materion yn ymwneud â safbwynt diduedd. Felly, rydym yn ymgynghori ynghylch a ddylai pleidiau cymwys yng Ngogledd Iwerddon gael cynnig darllediad gwleidyddol ychwanegol, neu a ddylid cadw at y dyraniad presennol o un darllediad gwleidyddol. Mae cysylltu darllediadau gwleidyddol â digwyddiadau wedi golygu bod pleidiau yn cael cynnig llai o ddarllediadau gwleidyddol rhai blynyddoedd (megis 2011) pan nad oedd Araith gan y Frenhines, yn ogystal ag ansicrwydd ynglyn ag amseru. Mae penderfyniad y llywodraeth i symud Araith y Frenhines i’r “Gwanwyn” yn golygu nad yw hyn yn briodol bellach, gan ei bod yn debygol, y rhan fwyaf o flynyddoedd, i ddigwydd naill ai yn fuan cyn neu yn fuan ar ôl dechrau cyfnod etholiad, pan na ellir darlledu darllediadau gwleidyddol (gan fod darllediadau etholiadol yn cael eu darlledu yr adeg hon). Ar hyn o bryd, mae’r Ymddiriedolaeth o’r farn bod yr drefn bresennol sy’n gyfrifol am ddarllediadau’r Gyllideb hefyd yn arfer hen ffasiwn. Nid oes gan y BBC Trust Party Political Broadcasts Consultation page 4 BBC ddyletswydd dan ei Siarter na’i Gytundeb i gynnig darllediad ar y Gyllideb, ac mae’n credu nad yw’n gwasanaethu’r gynulleidfa mwyach drwy gyflawni ei bwrpas bwriedig. Dechreuodd y darllediadau’n wreiddiol pan nad oedd darllediadau ar y teledu na’r radio ar gael o siambr Ty’r Cyffredin, a darllediad y Gyllideb oedd yr unig ffordd o weld a chlywed y Canghellor yn rhoi gwybod yn uniongyrchol i’r cyhoedd am gynnwys y gyllideb. Nawr, mae’r gynulleidfa’n gallu gwylio a gwrando ar y Canghellor yn fyw yn Nhy’r Cyffredin, neu ei wylio wedyn ar iPlayer, neu i weld a chlywed y pwyntiau allweddol ar draws nifer o allbynnau gwahanol. A’r DU wedi datganoli, mae’r Ymddiriedolaeth o’r farn ar hyn o bryd bod dyrannu darllediadau gwleidyddol unigol a’u darlledu i’r gwledydd perthnasol yn fwy teg ac yn fwy cyson na’r system bresennol ar gyfer darllediad y Gyllideb (lle mae llywodraeth y DU a Gwrthbleidiau Swyddogol yn darlledu darllediadau dros y DU gyfan – mae gan Plaid Cymru a’r SNP ddarllediadau sy’n benodol i Gymru a’r Alban). Ar hyn o bryd, rydym yn credu y dylai’r BBC weithredu polisi sy’n ystyried newidiadau o’r fath ac sy’n creu dull cyson o ddyrannu a threfnu amserlen yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, yn ogystal â dull teg ar gyfer Gogledd Iwerddon. Beth fyddai’r newidiadau arfaethedig yn ei olygu’n ymarferol? Ers datganoli, mae Cymru a’r Alban wedi cael darllediad gwleidyddol ychwanegol yn y gwanwyn. Mae’r BBC yn cynnig cysoni’r sefyllfa yn Lloegr gyda sefyllfa gweddill Prydain Fawr drwy gynnig darllediad gwleidyddol yn y gwanwyn. Yn ymarferol, byddai hyn yn golygu y byddai pleidiau cymwys yng Nghymru, yn Lloegr ac yn yr Alban yn cael tri darllediad gwleidyddol yr un bob blwyddyn. Un yn y gwanwyn, un yn yr hydref ac un yn y gaeaf.5 Ers i ddarllediadau gwleidyddol gael eu cyflwyno yng Ngogledd Iwerddon, mae pleidiau cymwys wedi cael un darllediad gwleidyddol y flwyddyn. Rydym yn ymgynghori ynghylch a ddylai'r dyraniad hwnnw gael ei gynyddu i ddau ddarllediad gwleidyddol rhwng mis Medi a mis Mawrth (ac eithrio mis Rhagfyr). Bydd darllediadau gwleidyddol yn cael eu darlledu yn y wlad berthnasol ar BBC One a BBC Two, fel o’r blaen. Ni fyddai darllediadau gwleidyddol, o reidrwydd, ynghlwm wrth gynadleddau’r pleidiau nac Araith y Frenhines mwyach, ac ni fyddai cyfres o ddarllediadau’r Gyllideb ynghlwm wrth ddatganiad y Gyllideb yn Nhy’r Cyffredin. Fodd bynnag, petaent yn dymuno, gallai pleidiau ddewis trefnu eu darllediadau tymhorol o amgylch digwyddiadau o’r fath, yn amodol ar ystyriaethau’r amserlen (gweler isod). 5 Ni fyddai darllediadau gwleidyddol yn cael eu rhoi ar yr amserlen yn ystod cyfnod etholiad, a gellir eu canslo neu eu gohirio os gelwir etholiad neu isetholiad. BBC Trust Party Political Broadcasts Consultation page 5 Cynigir y bydd hyd y darllediadau gwleidyddol a’r union drefn ar yr amserlen yn parhau i fod yn fater gweithredol ar gyfer y Bwrdd Gweithredol yn hytrach na’r Ymddiriedolaeth. Mae Bwrdd Gweithredol y BBC yn gweithio gyda’r Grwp Cyswllt Darlledwyr6 ar y trefniadau manwl ar gyfer yr amserlen, hyd y darllediadau a Chanllawiau Cynhyrchu, ac mae’r Ymddiriedolaeth yn disgwyl y bydd unrhyw arweiniad o’r fath yn gyson â gofynion unrhyw bolisi terfynol gan yr Ymddiriedolaeth ynghylch dyrannu darllediadau gwleidyddol. Er enghraifft, yn y gorffennol, mae defnyddio Canllawiau Cynhyrchu’r Grwp Cyswllt Darlledwyr wedi golygu y gall darllediadau gwleidyddol fod naill ai yn 2’40”, 3’40” neu’n 4’40” o hyd (a’r hyd yn fater o ddewis i’r pleidiau). Gwybodaeth am yr ymgynghoriad hwn Bydd yr ymgynghoriad hwn yn rhoi cyfle i’r Ymddiriedolaeth ystyried barn pleidiau gwleidyddol cofrestredig, sefydliadau perthnasol megis y Comisiwn Etholiadol, ynghyd â chyrff rheoleiddiol eraill, darlledwyr ac aelodau o’r cyhoedd, wrth benderfynu a ddylid cymeradwyo’r polisi darllediadau gwleidyddol arfaethedig. Darperir darllediadau gwleidyddol gan ITV ac S4C hefyd, sy’n aelodau o’r Grwp Cyswllt Darlledwyr. Caiff ITV ei reoleiddio gan Ofcom. Bydd y cyfnod ymgynghori yn para rhwng 6 Rhagfyr 2011 a 20 Ionawr 2012. Cwestiynau rydym am gael ateb iddynt Mae gennym ddiddordeb mewn cael unrhyw sylwadau sy’n berthnasol i’r polisi arfaethedig. Yn benodol, byddai’n ddefnyddiol cael atebion i’r cwestiynau canlynol Trefn yr Amserlen 1. A yw’r newid arfaethedig i ddarllediadau ‘tymhorol’ ar gyfer darllediadau gwleidyddol yng Nghymru, yn Lloegr ac yn yr Alban yn berthnasol ac yn briodol? Os na, eglurwch pam? 2. A oes gennych chi unrhyw sylwadau eraill am y dull ‘tymhorol’ arfaethedig o gynnig darllediadau gwleidyddol yng Nghymru, yn Lloegr ac yn yr Alban? 6 Ffurfiwyd y Grwp Cyswllt Darlledwyr ym 1997, ac mae’n cynnwys cynrychiolwyr pob un o’r darlledwyr sy’n sicrhau amser ar yr awyr i bleidiau gwleidyddol cofrestredig. Mae’r Comisiwn Etholiadol yn eistedd gyda’r Grwp Cyswllt Darlledwyr fel arsylwr. BBC Trust Party Political Broadcasts Consultation page 6 3. Ydych chi’n credu bod y dyraniad cyfredol o un darllediad gwleidyddol i bleidiau cymwys yng Ngogledd Iwerddon yn briodol? Hefyd, a ydych chi’n ystyried y dylai pleidiau cymwys barhau i gael cynnig un darllediad gwleidyddol y flwyddyn, neu ddau? Meini Prawf Dyrannu 1. A yw’r meini prawf y bydd Bwrdd Gweithredol y BBC yn eu defnyddio i benderfynu pa bleidiau y bydd darllediadau gwleidyddol yn cael eu dyrannu iddynt yn glir ac yn briodol? 2. A oes gennych chi unrhyw sylwadau eraill am y Meini Prawf arfaethedig? Darllediadau’r Gyllideb 1. A oes gennych chi unrhyw sylwadau eraill am y cynnig i ddileu darllediadau’r Gyllideb? Sut mae cyflwyno ymateb Bydd yr ymgynghoriad yn rhedeg dros gyfnod o chwech wythnos (ac eithrio wythnos y Nadolig). Y dyddiad cau yw: 20 Ionawr 2012 Anfonwch eich ymateb i: ppb.consultation@bbc.co.uk neu drwy’r post i: Ymgynghoriad Darllediadau Gwleidyddol / Party Political Broadcasts Consultation Ymddiriedolaeth y BBC / BBC Trust 180 Great Portland St Llundain W1W 5QZ Y camau nesaf Bydd Ymddiriedolaeth y BBC yn ystyried yr ymatebion i’r ymgynghoriad ac yn cyhoeddi canlyniadau’r ymgynghoriad hwn ar wefan yr Ymddiriedolaeth ynghyd â’r polisi terfynol, ar ôl i’r Ymddiriedolaeth ei gymeradwyo. BBC Trust Party Political Broadcasts Consultation page 7