Fframwaith Llywodraethu
Y Siarter
Y Siarter Frenhinol yw sail gyfansoddiadol y BBC. Mae'n nodi pwrpasau cyhoeddus y BBC, yn gwarantu annibyniaeth i'r BBC, ac yn amlinellu dyletswyddau'r Ymddiriedolaeth a'r Bwrdd Gweithredol. Bydd y Siarter gyfredol yn weithredol tan 31 Rhagfyr 2016.
- The Charter, PDF (260KB)
- The Charter, text only (76KB)
Y Cytundeb
Mae'r Cytundeb gyda'r Ysgrifennydd Gwladol yn cyd-fynd â'r Siarter. Mae'n darparu manylion nifer o'r pynciau a gaiff eu hamlinellu yn y Siarter, ac mae hefyd yn trafod cyllid y BBC, yn ogystal â'i ddyletswyddau rheoleiddiol. Mae'r Cytundeb yn ddogfen gyfansoddiadol bwysig oherwydd, ynghyd â'r Siarter, mae'n sefydlu annibyniaeth y BBC oddi ar y Llywodraeth.
Gosodwyd y Cytundeb cyfredol gerbron y Senedd ym mis Gorffennaf 2006.
- The Agreement, PDF (260KB)
- The Agreement, text only (76KB)
Diwygiad – Mawrth 2010
Diwygiwyd y Cytundeb ym mis Mawrth 2010 i adlewyrchu'r newidiadau a wnaed i gyfraith y DU o ganlyniad i weithredu'r Gyfarwyddeb Gwasanaethau Cyfryngau Clywedol a Gweledol.
- Amendment to the Agreement, March 2010, PDF (278KB)
- Amendment to the Agreement, March 2010, text only (5KB)
Diwygiad – Chwefror 2011
Diwygiwyd y Cytundeb ar 11 Chwefror 2011 er mwyn caniatáu i'r BBC ddefnyddio arian Ffi'r Drwydded i gyllido Gwasanaeth y Byd BBC.
- Amendment to the Agreement, February 2011, PDF (278KB)
- Amendment to the Agreement, February 2011, text only (5KB)
Diwygiad – Medi 2011
Ar 21 Hydref 2010, cytunodd y BBC a'r Llywodraeth ar setliad newydd ar gyfer ffi'r drwydded. Gellir cael rhagor o wybodaeth am hyn yma.
Diwygiwyd y Cytundeb ar 13 Medi 2011 er mwyn gweithredu setliad ffi'r drwydded yn swyddogol, a hefyd er mwyn diwygio trefniadau mynediad ar gyfer y Swyddfa Archwilio Genedlaethol.
- Amendment to the Agreement, September 2011, PDF (278KB)
- Amendment to the Agreement, September 2011, text only (5KB)
Gellir cael crynodeb o'r diwygiadau hyn a'u cefndir yma.
- Summary of the September 2011 Amending Agreement, PDF (278KB)
- Summary of the September 2011 Amending Agreement, text only (5KB)
Protocolau
Dogfennau ffurfiol sy'n nodi sut bydd Ymddiriedolaeth y BBC yn cyflawni ei swyddogaethau yn ôl gofynion Cytundeb Fframwaith a Siarter Frenhinol y BBC yw Protocolau. Maent yn nodi prosesau'r Ymddiriedolaeth, yn ogystal â rolau a chyfrifoldebau priodol Ymddiriedolaeth y BBC a'r Bwrdd Gweithredol.
Mae'r protocolau wedi'u rhannu i'r categorïau canlynol. Maent ar gael ar y tudalennau hyn.
- A. Dibenion cyhoeddus
- B. Safonau a Strategaeth
- C. Gwasanaethau'r BBC
- D. Atebolrwydd
- E. Cydymffurfio a Goruchwylio
- F. Gweithrediadau'r Ymddiriedolaeth
Polisïau, Codau a Chyfarwyddyd
Mae gan yr Ymddiriedolaeth bolisïau, codau a chyfarwyddyd sy'n nodi sut rydym yn gweithio mewn mwy o fanylder.