BBC Trust

Sicrhau bod pawb sy'n talu ffi'r drwydded yn cael y gorau o'r BBC

Cwynion ac apeliadau masnachu teg

Cwynion am y ffordd y bydd y BBC yn gwneud ei weithgareddau masnachol neu'n rhyngweithio â marchnadoedd masnachol yw cwynion masnachu teg. Os hoffech chi wneud cwyn masnachu teg, dylech chi gwyno wrth Weithrediaeth y BBC. Os byddwch chi'n anfodlon â'r ateb a gewch chi gan Weithrediaeth y BBC, gallwch chi apelio i'r Ymddiriedolaeth.

Canllawiau Masnachu Teg

Mae'r BBC wedi nodi ei ddull gweithredu ynghylch materion yn ymwneud â masnachu teg mewn canllawiau a datganiadau polisi. Os byddwch chi'n credu bod y BBC wedi methu cydymffurfio â'r rhain, efallai y bydd gennych chi sail dros gwyno.

Gallwch chi weld Canllawiau Masnachu Teg y BBC ar wefan y BBC.

Canllawiau Masnachu Teg ar wefan y BBC

Efallai y bydd arnoch chi hefyd eisiau darllen datganiad polisi'r Ymddiriedolaeth ynghylch masnachu teg. Mae hwn yn nodi'r egwyddorion a ddylai fod yn sail i holl fasnachu'r BBC.

Llwytho datganiad polisi'r Ymddiriedolaeth ynghylch masnachu teg

Mae rhagor o ganllawiau yn natganiad polisi'r Ymddiriedolaeth ynghylch effaith gystadleuol. Mae hwn yn nodi sut y bydd y BBC yn ystyried effaith gystadleuol gweithgareddau'r BBC yn y farchnad ehangach.

Sut mae cwyno

Gallwch chi weld sut mae gwneud cwyn masnachu teg ar wefan y BBC.

Dudalen gweithdrefn cwynion masnachu teg

Sut mae apelio

Os byddwch chi'n anfodlon â'r ateb a gewch chi gan Weithrediaeth y BBC, gallwch chi apelio i'r Ymddiriedolaeth. Mae proses cwynion ac apeliadau masnachu teg yr Ymddiriedolaeth yn esbonio sut y gallwch chi wneud hyn.

Llwytho proses cwynion ac apeliadau masnachu teg yr Ymddiriedolaeth

PDFs require Adobe Reader to view

Os byddwn ni'n cyfiawnhau eich apêl, bydd modd i ni osod sancsiynau. Mae'r rhain yn cynnwys rhoi cyfarwyddyd i'r BBC ymddiheuro; cyfarwyddo'r Weithrediaeth i gymryd camau i atal hyn rhag digwydd eto; a gofyn i'r BBC ystyried camau disgyblu priodol.

Sylwer na allwn ni ystyried apeliadau sy'n ymwneud â'r gyfraith gystadleuaeth. Dylech chi gyfeirio'r rhain ar yr awdurdod cystadleuaeth perthnasol.

System lywio bbc.co.uk

BBC © 2012 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.