The BBC is committed to communicating bilingually with the public in Wales. This publication of a Welsh Language Scheme incorporates many of the current working practices of the BBC and formalises language policies, as required by the Welsh Language Board.
The BBC's Welsh Language Scheme
This document is a revision of the BBC Welsh Language Scheme originally published in 1998.
The BBC recognises the principle of equality between English and Welsh. Regard for both languages has been integral to the administration of the BBC in Wales for many years.
Within Wales, the BBC Cymru Wales Board of Management is responsible for administering the scheme. On a wider corporate basis, the BBC's General Counsel is responsible for the scheme. A report on the operation of the scheme is included each year in the BBC Cymru Wales Annual Review.
Cynllun Iaith Gymraeg y BBC
Mae'r BBC yn ymrwymedig i gyfathrebu yn ddwyieithog gyda'r cyhoedd yng Nghymru.
Mae cyhoeddi Cynllun Iaith Gymraeg yn ymgorffori llawer o arferion gwaith presennol y BBC, ac yn ffurfioli polisïau iaith, fel sy'n ofynnol gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg.
Fersiwn diwygiedig o'r Cynllun Iaith Gymraeg a gyhoeddwyd yn wreiddiol ym 1998 yw'r ddogfen hon.
Mae'r BBC yn cydnabod yr egwyddor o gydraddoldeb rhwng y Gymraeg a'r Saesneg. Mae ystyried y ddwy iaith wedi bod yn rhan annatod o weinyddiaeth y BBC yng Nghymru ers blynyddoedd lawer.
Yng Nghymru, mae Bwrdd Rheoli BBC Cymru Wales yn gyfrifol am weinyddu'r Cynllun. Ar sail gorfforaethol ehangach, Cwnsler Cyffredinol y BBC sy'n gyfrifol am y Cynllun. Mae adroddiad ar weithrediad y Cynllun yn cael ei gynnwys yn Adolygiad Blynyddol BBC Cymru Wales bob blwyddyn.