Beth a wnawn

Ar y teledu a'r radio

Mae ein rhaglenni teledu lleol ar gael ar BBC ONE Wales, BBC TWO Wales, BBC iPlayer ac S4C. Rydym hefyd yn cynnig dwy orsaf radio genedlaethol, BBC Radio Cymru yn y Gymraeg a BBC Radio Wales yn Saesneg.

Mae ein portffolio o raglenni radio i'r rhwydwaith yn cynnwys ffefrynnau megis The Choir a Composer of the Week i Radio 3, ac amryw gynhyrchiad drama i Radio 4.

Ar gyfer teledu, gyda chwmnïau annibynnol yng Nghymru rydym yn cynhyrchu rhaglenni i sianeli digidol y BBC sef BBC Three, Four, CBBC a BBC HD, ac mae ein cynyrchiadau teledu rhwydwaith, gan gynnwys Doctor Who a Casualty, yn denu miliynau o wylwyr drwy'r byd i gyd.

S4C

Mae gennym berthynas unigryw gyda S4C ac rydym yn cyfrannu o gylch 600 awr o raglenni BBC Cymru Wales y flwyddyn at amserlen gyfan S4C, wedi ei hariannu gan y drwydded deledu. Adnewyddodd y BBC ac S4C Gytundeb Partneriaeth Strategol fis Tachwedd 2012 a thrwy hyn y mae rhaglenni'r BBC i S4C yn cael eu cytuno.

Mae Ymddiriedolaeth y BBC hefyd yn gosod allan gylch gwaith ar gyfer cynnyrch teledu iath Gymraeg y BBC. Mae'r ddwy broses yma yn sicrhau bod rhaglenni'r BBC ar S4C yn cyfrannu'n uniongyrchol i strategaeth rhaglenni S4C gan ddarparu'r dibenion cyhoeddus sydd eu hangen o'r BBC yn ei Siarter a'i Gytundeb.

Gwasanaethau Rhyngweithiol a Dysgu

slash-wales.jpg

Mae BBC Cymru Wales yn cynhyrchu cynnwys rhyngweithiol ac adnoddau dysgu ar-lein, ar ddyfeisiau symudol ac ar deledu rhyngweithiol, gan gynnwys :

Nod ein prif wasanaethau lleol yw portreadu Cymru, ei phobl a'i diwylliant a darparu ar eu cyfer :

  • bbc.co.uk/cymru - ein gwasanaeth Cymraeg ar y we, gyda’r Newyddion a'r Tywydd yng Nghymru, safleoedd ac adnoddau Dysgu i blant, Radio Cymru, nodweddion a chymorth ar gyfer rhaglenni’r BBC, fel Pobol y Cwm.
  • bbc.co.uk/wales - ein gwasanaeth Saesneg ar y we, porth i Newyddion, Chwaraeon a Dysgu yng Nghymru, gan gynnwys gwefannau ar gyfer Radio Wales, ein brandiau rhaglen mwyaf a gwybodaeth gorfforaethol.

Rydym yn anelu tuag at ein hamcanion cyffredinol sef cysylltu â chymunedau lleol, datblygu cymunedau o ddiddordeb ar-lein a defnyddio’r we i ddarparu golwg ar y byd o Gymru.

Ein cynyrchiadau ar gyfer y Rhwydwaith

Mae BBC Cymru Wales hefyd yn darparu ystod eang o wefannau a gwasanaethau rhyngweithiol ar gyfer cynulleidfaoedd yn y DU. Mae’r rhai sy’n cael eu cynhyrchu nawr yn cynnwys Doctor Who, Crimewatch, Sherlock, Wizards vs Aliens a Bitesize.

Connected Studio – dyma ein ffordd newydd o weithio gyda gwneuthurwyr rhaglenni, cyflenwyr annibynnol a phartneriaid i ddatblygu fformatau digidol newydd. Mewn byd darlledu sy’n cysylltu fwyfwy â’r rhyngrwyd, rydym yn gweithio gyda’r goreuon i sicrhau bod Cymru wrth galon y datblygiadau arloesol digidol diweddaraf.

Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC

Neuadd Hoddinott y BBC ym Mae Caerdydd yw cartref Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC, ac maent yn perfformio ledled Cymru ac ar hyd a lled gwledydd Prydain. Dyma Gerddorfa Breswyl Neuadd Dewi Sant, Caerdydd, ac maent yn teithio’n rheolaidd i Abertawe ac o amgylch canolbarth a gogledd Cymru. Yn ogystal, mae’r Gerddorfa’n perfformio bob blwyddyn yn y BBC Proms yn Neuadd Frenhinol Albert, Llundain.

Ewch i bbc.co.uk/now am fanylion pellach gan gynnwys amserlen o gyngherddau.

BBC © 2013 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.