Elusennau

Mae'n ymddangos nad oes gennych Flash ar eich cyfrifiadur. I weld yr holl gynnwys ar y wefan hon bydd angen i chi osod y chwaraewr Flash.

Am wybodaeth am sut i wneud hyn, ewch i ganllaw BBC WebWise am sut i lawrlwytho Flash.

Video content is not displayed in the printed page.

p0125qyp

Rhagfyr 2012 - Take Part Aberhonddu

Daeth Neges Elusennol BBC Cymru ar gyfer mis Rhagfyr 2012 ar ran Take Part Aberhonddu. Roedd darllediad ar BBC Radio Cymru ar Ddydd Llun 3 Rhagfyr. 

Ynglŷn â'r elusen

Nod Gweithdy Celfyddydau Cymunedol Take Part Aberhonddu yw helpu gwahanol grwpiau cymunedol i ennill hyder drwy ddysgu sgiliau celf a chrefft newydd. 

Sefydlwyd yr elusen yn 2009 gan Pat Cook ar ôl iddi gefnogi ei mab a oedd yn annog pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl i fwynhau celf. Ar ôl iddo gael diagnosis o sgitsoffrenia, roedd Desmond Harrison am helpu ei hun ac eraill i ennill hyder a dod yn rhan o'r gymuned unwaith yn rhagor. 

Mae gan yr elusen ei hadeilad ei hun bellach, ac mae'n cynnig gweithdai mewn crochenwaith, gwneud gemwaith, cerfio carreg, paentio a phrintio. 

Maen nhw wedi gweithio gyda phobl sydd ag anawsterau dysgu, pobl sy'n gaeth i sylweddau, grwpiau gofalwyr, menywod sydd wedi dioddef trais domestig a grwpiau o blant o ardaloedd difreintiedig a gwledig Powys. 

Mae grant Plant mewn Angen hefyd wedi helpu Take Part Aberhonddu i barhau i gynnal gweithdai yng Nghanolfan y Fyddin Dering Lines i helpu plant a gwragedd Gyrca i wella eu sgiliau iaith a dod yn rhan o fywyd Aberhonddu. 

Cysylltu â’r elusen yn uniongyrchol

Take Part Aberhonddu
Uned 28, Ystad Ddiwydiannol Ffrwdgrech
Aberhonddu
Powys LD3 8LA 

Gwefan : www.facebook.com/takepartbreconart.brecon

BBC © 2013 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.